02920 615 911 

ARWEINIAD I’N CYNNYRCH

Metal product guide

Beth yw dur di-staen?

Bathwyd y term ‘di-staen’ yn gynnar yn ystod datblygu dur fel hyn ar gyfer gwneud cyllyll a ffyrc ac ati. Fe’i mabwysiadwyd yn enw generig ar gyfer y mathau hyn o dduroedd ac mae bellach yn cynnwys ystod eang o fathau a graddau o ddur at ddibenion lle mae gofyn gallu gwrthsefyll cyrydu neu ocsideiddio.

 Aloion haearn yw dur di-staen sy’n cynnwys o leiaf 10.5% o gromiwm. Ychwanegir elfennau eraill i gymysgu aloi i wella eu strwythur a’u priodoleddau fel ffurfiadwyedd, cryfder a’u caledwch cryogenig. Maent yn cynnwys metelau fel:

Ychwanegir elfennau anfetel hefyd, y rhai pennaf yw:

Y prif ofyniad ar gyfer duroedd di-staen yw eu bod yn gallu gwrthsefyll cyrydu ar gyfer defnydd neu amgylchedd penodol. Rhaid i ddewis “math” a “gradd” o ddur di-staen fodloni gofynion gwrthgyrydu. Efallai y bydd angen ystyried priodoleddau mecanyddol neu ffisegol er mwyn cyflawni’r gofynion yn gyfan gwbl o ran perfformiad.

Defnyddir duroedd di-staen deublyg lle mae angen cyfuniad o gryfder mawr a gallu i wrthsefyll cyrydu.

ALOION COPR, PRES AC EFYDD

Metelau anfferrus yw copr, pres ac efydd sydd iddynt briodoleddau dargludedd trydanol a thermol yn ogystal â gwrthgyrydu, hyblygrwydd a chryfder da. Mae copr pur (Cu) yn elfen fetelig ddigymysg. Mae copr aloi isel yn cynnwys symiau bychan o elfennau cymysgu aloi fel alwminiwm a thitaniwm. Mae pres, efydd, pres plwm, arian nicel, nicel copr, efydd alwminiwm, ffosffor-efydd ac efydd silicon yn enghreifftiau o aloion copr. Caiff llawer o aloion copr, pres ac efydd eu caledu neu eu cryfhau trwy ddefnyddio prosesau gweithio oer, eu trin â hydoddiant, caledu drwy waddodiad neu ddadelfennu spinodol.

Mae dau fath sylfaenol o aloion copr, pres ac efydd: aloion bwrw ac aloion gyr. Toddir aloion bwrw ac yna eu bwrw’n barhaus, yn allgyrchol neu’n llonydd i fowldiau. Anffurfir aloeon gyr yn fecanyddol yn ystod gweithgynhyrchu mewn prosesau rholio, gofannu neu wthio allan.