Mae gennym ystod gynhwysfawr o dduroedd di-staen. Mae’r mwyafrif yn rhai awstenitig gydag ystod lai o rai martensitig.
Mae’n stoc yn cynnwys bar crwn, bar sgwâr, bar chwe-ochrog, bar fflat, dalennau, platiau, shim, tiwbyn, pibell, mân daclau, esgyll a chaewyr.
Graddau awstenitig yw’r aloion hynny a ddefnyddir yn gyffredin lle mae angen dur di-staen. Mae’r graddau awstenitig yn anfagnetig. Yr aloion awstenitig mwyaf cyffredin yw duroedd haearn-cromiwm-nicel ac fe’u hadweinir yn gyffredin fel y gyfres 300.
Duroedd di-staen awstenitig yw’r gorau o’r duroedd di-staen awstenitig am wrthsefyll cyrydu, gan eu bod yn cynnwys llawer o gromiwm a nicel ac yn cynnig priodoleddau mecanyddol gwych. Ni ellir eu caledu â gwres ond gellir eu caledu’n sylweddol trwy eu gweithio’n oer.
Defnyddir y graddau "L" i ddarparu dur sy’n well fyth am beidio â chyrydu at ddibenion weldio. Dynoda’r llythyren "L" ar ôl math o ddur ddi-staen garbon isel (fel yn 304L, 316L). Cedwir y cynnwys carbon i .03% neu’n is er mwyn osgoi gwaelodi carbid. Pan dwymir carbon mewn dur o fewn y terfynau a elwir yn ystod gritigol (800 i 1600 gradd F) mae’n gwaelodi allan ac yn cyfuno â’r cromiwm gan gasglu ar ffiniau’r gronynnau. Golyga hyn nad yw’r dur yn cael y cromiwm yn y toddiant ac mae’n hyrwyddo cyrydu ger ffiniau’r gronynnau. Trwy reoli maint y carbon, mae hyn yn cael ei leihau.
Dyma’r math mwyaf cyffredin o’r graddau awstenitig sy’n cynnwys tua 18% o gromiwm ac 8% o nicel (18/8). Fe’i defnyddir ymhlith pethau eraill, ar gyfer offer prosesu cemegol yn y diwydiannau bwyd, llaeth a diodydd, ar gyfer cyfnewidwyr gwres ac ar gyfer y cemegau gwannach.
Addasiad yw gradd 303 o’r math sylfaenol o ddur di-staen 10% o gromiwm ac 8% o ddur di-staen nicel ac sy’n anfagnetig, awstenitig ac a baratowyd yn y fath fodd fel ag i’w wneud yn fwy peirianadwy, tra’n cynnal priodoleddau mecanyddol a gwrthgyrydu da.
Mae cynnwys rhwng 16% a 18% o gromiwm ac 11% i 14% o nicel. Defnyddir math 316 mewn prosesu cemegol, amgylchedd morol, y diwydiant mwydion a phapur, pyllau nofio, prosesu a darparu bwyd a diodydd ac mewn amgylcheddau mwy agored i gael eu cyrydu.
Mae’r gradd hwn wedi’i ddatblygu at ddibenion gwrthsefyll cyrydu pan fydd yn agored yn fynych ond yn ysbeidiol i dymheredd sy’n fwy nag 800 gradd F. Gwneir y math 321 drwy ychwanegu titaniwm.
Defnyddir dur di-staen awstenitig gradd 310 fel arfer pan fydd gwres uchel. Mae’r cynnwys uchel o gromiwm a nicel yn ei wneud yn debyg o ran gwrthsefyll cyrydu, yn well fyth am wrthsefyll ocsideiddio, a chadw rhanrif fwy o gryfder tymheredd ystafell na’r graddau awstenitig cyffredin.
Fel arfer cedwir stoc ohonynt yn y bar crwn yn unig.
Mae graddau martensitig yn fagnetig. Caiff y duroedd di-staen hyn eu caledu drwy oeri ac yna eu tymheru i’w gwneud yn fwy gwydn a hawdd ei drin. Mae cynyddu’r cynnwys carbon yn gwneud y dur yn fwy caled, yn gryfach ac yn well am allu gwrthsefyll treulio ond mae hyn ar draul gwytnwch a hyblygrwydd. Mae cynnwys cromiwm o 11% o leiaf yn rhoi priodoleddau stribed dur di-staen.
Dyma’r radd martensitig sylfaenol. Dur di-staen at ddefnydd cyffredinol y gellir ei drin â gwres. Fe’i defnyddir yn helaeth lle nad yw cyrydu yn ddrwg iawn (aer, dŵr, rhai cemegau ac asidau bwyd. Mae defnydd nodweddiadol arno yn cynnwys rhannau o dan bwysau uchel sydd angen cyfuniad o gryfder a’r gallu i wrthsefyll cyrydu, fel caewyr.
Mae’n cynnwys ffosfforws a sylffwr ychwanegol er mwyn gallu ei beiriannu’n well. Fe’i defnyddir yn nodweddiadol ar gyfer darnau sgriw i beiriannau.
Mae’n cynnwys mwy o garbon i wella’r priodoleddau mecanyddol. Fe’i defnyddir yn nodweddiadol ar gyfer gwneud offer llawfeddygol.
Mae’n cynnwys mwy o gromiwm i allu gwrthsefyll fwy eto ar gyrydu a chael priodoleddau mecanyddol da. Mae defnydd nodweddiadol iddo yn cynnwys darnau lle mae angen cryfder uchel fel falfiau a phympiau.
Rydym hefyd yn cadw ystod fechan o raddau deublyg, uwch ddeublyg a nimonig o ddur di-staen.